Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi canfod corff yn y Fenai y bore yma (dydd Mawrth, Mehefin 27).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 10.45 y bore ar ôl derbyn adroddiadau am ddyn yn Fenai ger Bangor.
Llwyddodd yr holl wassanaethau brys i gyrraedd y safle a chodi corff y dyn o’r dŵr ond bu farw.
Mae’r dyn o Fôn wedi gael ei adnabod a’i deulu wedi cael gwybod. Mae ymchwiliad ar y gweill gyda’r heddlu’n galw ar dystion i gysylltu ar 101.