Ken Skates
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais i ariannu hanner cost trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy ym Mlaenau Gwent.

Nod y prosiect £430 miliwn oedd creu 6,000 o swyddi, ac mi roedd y datblygwyr yn gobeithio denu 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn i ddigwyddiadau yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Roedd y prosiect yn un dadleuol ac mi wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru godi pryderon am ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o arian cyhoeddus mewn adroddiad ym mis Ebrill eleni.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu mwy na £9.3 miliwn o arian cyhoeddus yn y prosiect cyn dod at benderfyniad heddiw.

Penderfyniad y Cabinet

Mewn datganiad mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi amlinellu’r rhesymeg tu ôl y penderfyniad gan nodi sawl ffactor.

Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru wedi gorfod “wynebu dros 50%” o risg y prosiect, ac y byddai wedi “cyfyngu’n sylweddol” ar eu gallu i wireddu prosiectau eraill.

Mae’r datganiad hefyd yn nodi mai “ychydig dros 100” o swyddi llawn amser uniongyrchol  fyddai wedi cael ei sefydlu yno mewn gwirionedd, erbyn 2024.

Parc fusnes newydd

Yn hytrach nag ariannu’r gylchffordd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi £100 miliwn dros ddegawd er mwyn sefydlu parc fusnes technoleg cerbydau yng Nglyn Ebwy.

Bydd y safle yn cael ei adeiladu ar 40,000 troedfedd sgwâr o dir sydd yn eiddo’r cyhoedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio creu 1,500 o swyddi llawn amser yno.

Embaras i Gymru?

“Mae’n rhyfeddol bod y Llywodraeth yma wedi gwario £9 miliwn o arian cyhoeddus ac wedi cymryd saith blynedd er mwyn penderfynu ei bod eisiau gwrthod Cylchffordd Cymru,” meddai’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price.

“Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y cynnig buddsoddi preifat mwyaf yn Hanes Cymru. Bydd buddsoddwyr fel Aviva yn meddwl ddwywaith cyn buddsoddi yn y cymoedd eto. Ydy Cymru yn agored i fusnes neu ydy hi ond yn agored i embaras?”