Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad heddiw (ddydd Mawrth, Mehefin 27) am ddyfodol cynllun trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy.

Bydd y cabinet yn cwrdd ddydd Mawrth i benderfynu a fyddan nhw’n rhoi sêl bendith i barhau â’r cynllun ym Mlaenau Gwent.

Yn ôl y datblygwyr fe allai’r cynllun greu 6,000 o swyddi gan ddenu 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn i ddigwyddiadau yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Ond mae’r prosiect wedi bod yn un dadleuol gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi codi pryderon am ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o arian cyhoeddus mewn adroddiad ym mis Ebrill eleni.

Hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na £9.3m o gyllid i’r prosiect, ac fe fyddan nhw’n penderfynu heddiw ynglŷn ag unrhyw fuddsoddiad pellach.