Tafarn Sinc
Mae menter newydd ar droed ym mro’r Preseli wrth i bobol ystyried brynu’r dafarn enwog â’i waliau sinc yn enw’r gymuned.

Ers mis Ionawr mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog wedi bod ar werth am bris o £295,000 gan yr arwerthwyr Sidney Phillips.

Hyd yn hyn, nid oes yr un cynnig wedi dod i law, ac mae cyfarfod wedi’i drefnu gan bapur bro’r ardal, Clebran, i geisio prynu’r dafarn a’i chynnal yn “ganolfan Gymreig a Chymraeg.”

‘Cynnal elfen Gymreig’

Ddiwedd Ionawr eleni penderfynodd y perchnogion presennol, Brian a Hafwen Davies, roi’r dafarn ar y farchnad ar ôl chwarter canrif o wasanaeth, ac maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n cau’r drysau cyn y Nadolig – os ydy’r dafarn wedi ei gwerthu neu beidio.

Dywedodd Hafwen Davies ar y pryd y byddai’n gobeithio y byddai unrhyw berchnogion newydd yn “cynnal elfen Gymreig y dafarn” am nad oes “dim byd tebyg iddo fe yn yr ardal… ac mae’n bwysig cadw hynny i fynd.”

Y bwriad felly yw casglu 1,876 o gyfranddaliadau gwerth £200 yr un, am mai yn 1876 yr agorodd y dafarn dan enw’r ‘Precelly Hotel’ gyda’r rheilffordd o Glunderwen i Ros-y-bwlch.

‘Tu hwnt i’r fro’

“Am fod Tafarn Sinc mor enwog mae’n siŵr y byddai pobol y tu hwnt i’r fro ac ar draws y byd yn barod i gyfrannu wrth i’r ymgyrch codi arian godi stêm,” meddai’r Cynghorydd Cris Tomos.

“Mi fyddai cyrraedd y nod o 1,876 o gyfranddaliadau yn codi £375,200,” meddai wedyn.

Mae’r cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Fercher, Gorffennaf 12 am 7.30yh yn Neuadd Maenclochog.