Mike Peters a'r gopa'r Wyddfa
Llwyddodd prif leisydd The Alarm i ddenu mwy na 600 o bobol i gopa’r Wyddfa ddydd Sadwrn lle bu’n cynnal ei gig flynyddol i godi arian at driniaeth canser.

Bwriad Mike Peters a’i wraig Jules yw codi arian at ymgyrch ‘Wrth Dy Ochr’ gan elusen Awyr Las gyda’r ddau ohonyn nhw yn dioddef o ganser eu hunain.

“Roeddwn i eisiau helpu pobol eraill fel fi i gael y driniaeth a’r gofal gorau posibl yma yn y gogledd,” meddai Mike Peters sy’n wreiddiol o Ddyserth.

“Roeddwn i’n awyddus i annog pobol i barhau i fod yn weithgar; ac roeddwn i eisiau dathlu popeth sy’n dda am ein gwasanaeth iechyd.”

Gig i gloi

Dros yr wythnos diwethaf, mae’r ddau wedi cerdded o gwmpas gogledd Cymru gan ymweld â Fflint, Brychdyn, Rhuthun, Prestatyn, Bae Colwyn a Chonwy.

Ac i gloi’r digwyddiad, fe wnaethon nhw gynnal gig yng ngwesty’r Heights yn Llanberis nos Sadwrn yng nghwmni Band Pres Llareggub, Côr Glaenaethwy a The Christians.