(Llun: Gwasanaeth Iechyd)
Mae dioddefwyr y cyflwr ffibrosis systig yn ymgynnull ar hyd a lled gwledydd Prydain heddiw i brotestio am y diffyg triniaeth sydd ar gael i bobol sy’n byw gyda’r cyflwr genetig.

Fe fydd protestiadau’n cael eu cynnal tu allan i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd yn ogystal ag yn Stryd Downing, Senedd yr Alban ac yn Stormont.

Mae’r cyffur Orkambi wedi’i drwyddedu ers dwy flynedd yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi profi i wella symptomau anadlol pobol sy’n dioddef o’r cyflwr.

Er hyn, nid yw ar gael drwy’r Gwasanaeth Iechyd ac mae elusen Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig yn dweud y gallai’r cyffur wella disgwyliad oes plant pe byddent yn ei gymryd o oedran cynnar.

Gwella disgwyliad oes

Mae ffibrosis systig yn gyflwr genetig sy’n achosi niwed i’r ysgyfaint, gyda dim ond hanner o bobol gyda’r cyflwr yn byw hyd at 40 oed. Mae tua 10,800 o bobol yn byw gyda’r cyflwr yn y Deyrnas Unedig.

“Mae Orkambi yn gam sylweddol ymlaen yn y driniaeth ar gyfer ffibrosis systig, ac fe allai helpu pobol i fyw yn hwy ac mae ganddo’r potensial i achub miloedd o fywydau yn y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig.