Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddamwain angheuol a ddigwyddodd toc cyn 2yp ddydd Sadwrn (Mehefin 24) yng nghyffiniau Y Bontfaen.

Fe fu gwrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd Land Rover Freelander ar ffordd y B4268 rhwng Pentre Meurig a Llyswyrny.

Bu farw’r beiciwr modur 52 oed yn y fan a’r lle, ac fe fu’r ffordd ar gau am tua phump awr yn dilyn y gwrthdrawiad, tra’r oedd y safle’n cael ei archwilio.

Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am dystion a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth arall am y digwyddiad.