Mae cadeirydd cronfa a gafodd ei sefydlu dros hanner canrif yn ôl er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg, yn galw ar bobol i dyrchu i’w pocedi i gyfrannu eto er mwyn gallu cefnogi prosiectau sy’n “gwneud gwahaniaeth” i sefyllfa’r iaith.

Fe gafodd Cronfa Glyndwr ei sefydlu yn 1963, ond mae’r cadeirydd presennol, yr hanesydd Catrin Stevens, yn awyddus i adael i genhedlaeth newydd sy’n gweithredu dros yr iaith Gymraeg wybod fod grantiau i’w cael. Mae Cronfa Glyndwr wedi cyfrannu dros £28,000 at 80 o brosiectau gwahanol ym mhob cwr o Gymru, ers 2011.

“ Ers ei sefydlu yn 1963 mae Cronfa Glyndŵr wedi bod yn helpu addysg Gymraeg,” meddai Catrin Stevens, “ond rydym eisiau lledaenu ein neges yn ehangach.

“Gwahoddwn fwy o geisiadau am arian a nawdd. Ac i gyflawni’r galw, mae angen rhagor o gyfranwyr hael i’n Cronfa.

“Mae’n ffordd wych o helpu addysg Gymraeg,” meddai wedyn. “Mae cyfraniad bach gan y Gronfa i brosiectau addysg Gymraeg yn gallu gwneud gwahaniaeth rhwng llwyddo neu fethu.”

Mae llawer o gylchoedd Meithrin a Ti a Fi, ysgolion a Mentrau Iaith eisoes wedi manteisio ar gymorth y Gronfa.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg Gymraeg gyda diddordeb cynyddol ymysg rhieni mewn buddsodi yn nyfodol dwyieithog eu plant,” meddai Catrin Stevens.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd angen pob math o adnoddau i gyrraedd y targed clodwiw hwn ac mae Cronfa Glyndŵr yn barod i helpu.”