Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion wedi damwain angheuol ar ffordd y B5401 ger pentref Cerrigdrudion ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 2yp i ddamwain rhwng car a beic modur. Roedd beiciwr 28 oed wedi marw yn y fan a’r lle.

Fe gafodd gyrrwr y car Daihatsu ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, gyda mân anafiadau.

Ond, yn ôl yr heddlu, fe arhosodd gyrrwr dau gar – Mitsubishi lliw melyn a Honda lliw arian, i helpu am gyfnod, gan adael pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys. Mae’r awdurdodau’n awyddus i siarad gyda nhw ar fyrder.

Fe fu ffordd y B4501 ar gau tan tua 8yp nos Sadwrn.