Cor Dinasyddion y Byd (Llun trwy Roger Roberts)
Mae côr newydd o ffoaduriaid, sydd wedi’i ffurfio gan Arglwydd o Gymru, yn perfformio yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen ymhen pythefnos… os y byddan nhw’n gallu dod o hyd i fws i’w cludo o Greenwich i Sir Ddinbych.

Syniad Roger Roberts, yr Arglwydd Roberts o Landudno, oedd sefydlu côr ar gyfer pobol o bob cwr o’r byd sydd wedi’u cael eu hunain yn Llundain oherwydd rhyfel, newyn ac amgylchiadau y tu hwnt iddyn nhw’u hunain.

Mae Côr Dinasyddion y Byd yn cynnwys dros 30 o leisiau o bymtheg  o wledydd gwahanol sy’n ymarfer bob nos Fercher ers rhai misoedd. Fe fu’r perfformiad cyhoeddus cyntaf yn Llundain nos Fawrth ddiwethaf (Mehefin 23), a’r bwriad ydi iddyn nhw berfformio ym mhafiliwn yr eisteddfod gerddorol nos Wener, Gorffennaf 7, a chanu wedyn yn eglwys St Ioan, Llandudno fore trannoeth.

Mae’r cantorion yn hanu o Syria, Afghanistan, ac yn defnyddio drymiau darabouka o Affrica yn gyfeiliant yn ogystal â’r piano – ac ychydig o rapio gan ffoadur o Irac. Becky Dell, sy’n rhedeg ysgolion perfformio yn ardal Llundain, ydi’r cyfarwyddwr cerdd.

“Maen nhw’n edrych ymlaen at berfformio yn Llangollen y mis nesaf,” meddai Roger Roberts wrth golwg360, “ond ar hyn o bryd, dw i’n cael ychydig o drafferth yn dod o hyd i fws fedr eu cludo nhw i ogledd Cymru. Mae pawb i weld yn brysur iawn!

“Dw i’n gobeithio, yr wythnos yma, y byddwn ni’n sortio’r broblem… oherwydd mi fyddai hi’n gost o £81 y pen i ddod â nhw ar y trên o Lundain i Riwabon ac yn ôl i Greenwich wedyn. Rydan ni wedi cael grantiau i dalu am fws a ddylai gostio rhwng £1,800 a £2,000 i ni.

“Mae’n ymddangos fod cwmnïau bysus yn Llundain yn brysur iawn yr wythnos honno, ond rydw i wedi bod yn holi busnesau yng Nghymru hefyd, a dw i’n siwr y down ni o hyd i ateb. Mae cerddoriaeth yn ffordd o uno pobol, ac o gael ffoaduriaid i deimlo eu bod yn perthyn yma.”