Alex Dennis (Llun: Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol/PA Wire)
Mae dyn o Abertawe oedd wedi cynllwynio i deithio i Ganada i gam-drin plentyn yn rhywiol, wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Alex Dennis, 37 o Bontarddulais, yn bwriadu cyflawni’r “gamdriniaeth waethaf y gellir ei dychmygu” drwy dreisio plant dynes tra ei bod hi’n ei wylio.

Ond fe ddaeth i’r amlwg mai plismones o Ganada oedd y ddynes, meddai’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, ac nad oedd y plant yn bodoli mewn gwirionedd.

Cafodd Alex Dennis, oedd yn cael ei adnabod ar-lein fel Hardatitt, ei garcharu am ddwy flynedd ddydd Gwener.

‘Ffantasi’

Dywedod yr Asiantaeth ei fod e wedi cyfaddef yn ystod cyfweliad ei fod e wedi ymweld â gwefannau’n trafod camdrin plant, a’i fod e wedi dileu cofnodion ei ffôn symudol mewn ymgais i ddinistrio tystiolaeth.

“Ffantasi” oedd ei gynllwyn, meddai Alex Dennis, a doedd e ddim wedi bwriadu cyflawni’r weithred.

Ond fe gafwyd e’n euog o drefnu neu hwyluso comisiynu plentyn ar gyfer troseddau rhyw.

Fe fydd rhaid i Alex Dennis fod yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol a llofnodi’r gofrestr troseddwyr rhyw am ddeng mlynedd.

Mae’r NSPCC wedi galw ar iddo dderbyn triniaeth fel na fydd e’n berygl i blant yn y dyfodol.