Llandudno fydd yn cynnal y degfed Diwrnod Lluoedd Arfog y flwyddyn nesaf i “anrhydeddu” gwaith milwyr gwledydd Prydain.

Dyna y mae’r Gweinidog Amddiffyn, yr Iarll Howe, wedi’i gyhoeddi ac mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns nodi’r cyhoeddiad mewn digwyddiad i “ddathlu’r” Lluoedd Arfog yng Nghaerffili heddiw.

Mae’r diwrnod cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Lerpwl eleni. Cafodd y diwrnod ei gynnal ddiwethaf yng Nghymru, yng Nghaerdydd yn 2010.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a chymunedau lleol, ynghyd â hanes cyfoethog a bywiog Llandudno, yn golygu mai’r pentref yw’r dewis delfrydol i wneud y digwyddiad hyd yn oed yn fwy llwyddiannus yn 2018,” meddai’r Iarll Howe.

Dywedodd Alun Cairns fod gan Gymru “gysylltiad arbennig” â’r Lluoedd Arfog yng Nghymru.

“Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad a’u balchder dros ein milwyr, ein morwyr a’n swyddogion awyr sy’n aberthu cymaint i eraill.”

Croeso gan arweinydd Cyngor Conwy

Fe wnaeth arweinydd newydd Cyngor Conwy, Gareth Jones, groesawu’r newyddion hefyd, gan ddweud bod gan y sir “gysylltiad cryf” gyda’r Lluoedd Arfog.

Ychwanegodd y bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan bob un o gynghorau Gogledd Cymru i “ddiolch” i filwyr “am eu hymrwymiad i gadw ein gwlad yn ddiogel.”

Mae bron i 10,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghonwy ac mae disgwyl parti stryd i ddathlu’r Lluoedd Arfog yn y sir heddiw.