Angen i Gymru gael “rhan allweddol” yn Brexit

 


Mark Drakeford (Llun: Senedd TV)
Mewn cynhadledd ym Mhowys heddiw, bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru yn rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i roi “rhan allweddol” i’r gwledydd datganoledig yn nhrafodaethau Brexit.

Mae disgwyl i Mark Drakeford ddweud nad oes gan Theresa May fandad bellach i barhau â ‘Brexit caled’ a fyddai’n golygu gadael y farchnad sengl.

Dywed fod yr etholiad cyffredinol yn gyfle i roi mwy o rôl i lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig – Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Bydd Brexit yn arwain at oblygiadau mawr ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol y DU nad oes modd eu hanwybyddu,” meddai Mark Drakeford.

“Ni allwn droi’r cloc yn ôl i’r cyfnod cyn 1973. Mae datganoli bellach yn rhan annatod o gyfansoddiad y DU ac mae’n rhaid parchu hyn.”

Galw am gyfathrebu gwell

Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, wedi galw ar yr Ysgrifennydd Brexit yn San Steffan, David Davis, i wella’r cyfathrebu sy’n digwydd rhwng gwledydd Prydain ar y pwnc.

Yn ôl Mark Drakeford, mae hyn yn cynnwys “ail-ddechrau cyfarfodydd” y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a gafodd ei sefydlu i oruchwylio trafodaethau gadael yr Undeb Ewropeaidd, a ddechreuodd yr wythnos hon.

“Fe wnaeth canlyniad yr etholiad cyffredinol roi neges bwerus i Lywodraeth y DU nad oes ganddi fandad ar gyfer ‘Brexit caled’, a bod yn rhaid iddi weithio mewn ffordd wahanol i ddatblygu consensws eang ledled y DU ar gyfer cynnal y broses Brexit,” meddai.

“Rydyn ni wedi nodi’n glir bod hyn yn gyfle i Lywodraeth y DU ailystyried ei chynlluniau a’i ffordd o ymdrin â rôl y gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau.

“Gan fod y trafodaethau hynny wedi dechrau yn gynharach yn yr wythnos, mae’n fwy pwysig nag erioed i Lywodraeth y DU amlinellu hyn.”

‘Angen cymryd camau brys’

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru bapur yn awgrymu sefydlu ‘Confensiwn dros Ddyfodol y Deyrnas Unedig’ a ‘Chyngor Gweinidogion Prydeinig’ a fyddai’n ymdrin ag anghydfod ôl-Brexit.

“Rydyn ni’n croesawu’r sicrwydd yn Araith y Frenhines bod y llywodraeth yn dymuno datblygu consensws eang, gan gynnwys ar y cyd â’r Gweinyddiaethau Datganoledig.” Ychwanegodd Mark Drakeford.

“Ond nawr yw’r amser i ddangos hynny drwy gymryd camau brys.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd