Wedi wythnos gyffrous arall yn y byd gwleidyddol, mae pethau yn dechrau setlo yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon, roedd Leanne Wood am drafod Brexit a cheisiodd hoelio Carwyn Jones ar y gwahaniaeth rhwng ‘mynediad’ at y farchnad sengl a ‘bod yn aelod’ o’r farchnad.

A chwestiwn am dargedau PISA y Llywodraeth a  safonau addysg plant oedd gan Andrew RT Davies– ar ôl i ddryswch godi o ran beth yn union yw targed Cymru erbyn hyn.

Roedd gan Neil Hamilton gwestiwn am dân Tŵr Grenfell, gyda Carwyn Jones yn ei gyhuddo o geisio o fanteisio ar y trychineb i sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Brexit ac Araith y Frenhines

Mae Gareth Hughes hefyd yn asesu dechrau’r trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd… gyda David Davis yn colli brwydr rhif un yn syth.

Mae Araith y Frenhines yn cael sylw hefyd – naws wahanol iawn oedd yn Nhŷ’r Cyffredin wrth i’w Mawrhydi draddodi rhaglen lywodraeth Llywodraeth San Steffan.

A rhag ofn bod neb yn poeni, do – mi gafodd hi fynd i Ascot wedi’r seremoni. Diolch byth am hynny.