Meri Huws
Wedi pum mlynedd yn Gomisiynydd y Gymraeg, mae Meri Huws yn dweud iddi ddysgu bod angen gwrando ar feirniadaeth – ond hefyd i fod yn “benstiff” ar adegau.

Mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae yn dweud ei bod yn bwriadu bod yn ei swydd am y tymor llawn sef saith mlynedd, cyn trosglwyddo’r awenau i rywun arall.

“Mae wedi bod yn brofiad diddorol. Ar adegau mae wedi bod yn brofiad gwych, ar adegau mae wedi bod yn heriol,” meddai.

Fe gafodd swydd Comisiynydd y Gymraeg ei chreu yn sgîl pasio deddf Mesur y Gymraeg 2011 a oedd hefyd yn gyfrifol am gyflwyno Safonau Iaith sydd i fod i roi hawl gyfreithiol i bobol gael gwasanaethau yn Gymraeg.

“Mae’n debyg bod creu unrhyw swydd o’r newydd yn sialens a dwyt ti ddim yn mynd i blesio pobol felly dw i’n credu mai un o’r pethau dw i wedi dysgu yw bod eisiau croen eliffant ar y person yn y rôl yma.

“A hefyd y syniad ei fod yn bwysig eich bod chi’n gwrando ond hefyd bod y cyfeiriad ry’ch chi’n cymryd yn uniongyrchol, bod chi’n gwybod i ba gyfeiriad ry’ch chi’n mynd.

“Felly rhyw gyfuniad o feithrin y gallu i ddelio a chlywed beirniadaeth ond hefyd bod yn weddol o benstiff ynglŷn â pha gyfeiriad.”

Safonau’r Gymraeg – ‘angen gwneud mwy’

Wrth siarad am Safonau’r Gymraeg, roedd Meri Huws yn cydnabod bod angen gwneud mwy – ond mynnodd fod y Gymraeg erbyn hyn yn fwy gweladwy yn sgîl ei gwaith hi.

“Mae’r Safonau yn rhan o’r patrwm, mae’n ddechrau’r daith ond dyw e ddim yn ddiwedd y daith a dyw e ddim yn unig ddarn y daith chwaith.

“Ry’n ni newydd wneud cyfres o grwpiau ffocws o gwmpas Cymru yn edrych ar brofiad defnyddwyr, misoedd i mewn i’r Safonau gweithredol a’r neges ry’n ni’n cael yn glir yw bod nhw’n teimlo bod yna newid diwylliant yn digwydd.

“Dyw e ddim yn berffaith o bell ffordd ond lle buasen nhw ddwy flynedd yn ôl ‘falle yn gofyn am wasanaeth, maen nhw nawr fwyfwy yn gallu gweld bod y gwasanaeth yna. Mae’n fwy gweladwy.

“Mae yna dyllau o hyd ond dyna’r adborth ry’n ni’n cael oddi wrth y cyhoedd, bod pethau wedi newid.”

Mwy gan Gomisiynydd y Gymraeg yn rhifyn yr wythnos o Golwg.