Jamie Roberts, canolwr Cymru v Samoa.
Fe lwyddodd y Cymry i gipio buddugoliaeth yn erbyn Samoa mewn tywydd garw.

Fe sgoriodd Steff Evans, seren y Scarlets, ddau gais i sicrhau buddugoliaeth i Gymru mewn gêm agos.

Hefyd fe lwyddodd Sam Davies i gicio tair cic gosb mewn tywydd gwlyb yn Apia y bore yma.

Fe sgoriodd Maatulimanu Leiataua ac Alapati Leiua geisiau i Samoa.

Roedd pedwar o’r Cymry oedd yn y tîm wnaeth drechu Tonga yr wythnos diwethaf wedi ymuno efo’r Llewod, gan olygu bod y tîm chwaraeodd heddiw yn llai profiadol.

Mae gan y capten heddiw, y canolwr profiadol Jamie Roberts, 33 yn fwy o gapiau na gweddill y tîm efo’i gilydd.

Tîm Cymru: Gareth Anscombe; Cory Allen; Tyler Morgan; Jamie Roberts; Steffan Evans; Sam Davies; Aled Davies; Nicky Smith; Ryan Elias; Dillon Lewis; Seb Davies; Rory Thornton; Aaron Shingler, Ellis Jenkins; Josh Navidi.