Mae ystadegau newydd yn dangos bod 63% o yrwyr Cymru ddim yn gwybod digon am hawliau beicwyr ar y ffyrdd.

Yn ôl eBikes Direct, a holodd 1,000 o bobol ledled y Deyrnas Unedig fel rhan o arolwg i ddiogelwch beicwyr, gall anwybodaeth gyrwyr arwain at ddamweiniau ar y ffyrdd.

Cafodd y gyrwyr eu profi gan y cwmni gwerthu beiciau electroneg ar eu gwybodaeth am hawliau beicwyr ar y ffyrdd, gyda 63% o’r sawl yng Ngymru yn ateb yn anghywir.

Colli tymer

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ganfod bod gyrrwyr yn gwylltio yn aml gyda phobol ar gefn beic, gan feddwl yn anghywir, eu bod yn torri’r gyfraith.

39% o yrwyr ledled y Deyrnas Unedig oedd yn cyfaddef iddyn nhw golli eu tymer â beicwyr – gyda dynion [42%] yn waeth na menywod [37.5%].

Roedd 81% yn credu bod yn rhaid i bobol ar feic aros ar ochr chwith y ffordd – er eu bod hi’n gyfreithiol iddyn nhw feicio ar ganol y ffordd.

Roedd 65% o bobol hefyd yn meddwl bod yn rhaid i feicwyr ddefnyddio’r lôn seiclo os oes ‘na un – ond dydy hyn ddim yn wir.

Hawliau

Yng Nghymru, roedd 50% yn meddwl yn anghywir nad oedd seiclwyr yn cael defnyddio ffyrdd deuol, tra bod 89% yn meddwl nad oes hawl gan bobol i seiclo ochr wrth ochr ar y ffordd, tra eu bod yn gallu gwneud hyn.

Fodd bynnag, does dim hawl gan seiclwyr i fod ar balmentydd, er bod bron i chwarter – 22.8% – yn credu’n wahanol.

“Mae diffyg gwybodaeth am hawliau beicwyr ar ein ffyrdd yn arwain at ffrygydau a damweiniau,” meddai Matt Flanagan o eBikes Direct.

“Er mwyn i ni gyd aros yn ddiogel a hapus ar ein ffyrdd, mae’n hanfodol ein bod yn gwybod y wybodaeth gywir.”