Pencadlys Cyngor Sir Ddinbych yn Rhuthun
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych newydd ryddhau datganiad yn dweud na fydd grŵp Plaid Cymru yn cymryd eu seddi ar Gabinet y cyngor hwnnw.

Mae’r Cynghorydd Hugh Evans OBE yn dweud ei fod wedi’i siomi, “mewn diwylliant o wleidyddiaeth gonsensws”, lle mae pob plaid wedi cael rol i’w chwarae ar y cyngor yn y gorffennol, na fydd Plaid Cymru y tro hwn yn cyflwyno “uwch gynrychiolydd” ar y Cabinet.

Ond mae hefyd yn dweud mai penderfyniad “Caerdydd” – sef swyddfa ganolog Plaid Cymru yn y brifddinas – ydi hwn, a fydd yn arwain at bobol yn Sir Ddinbych yn colli cyfle.

“Mae hyn yn fwy siomedig o gofio fod grŵp lleol Plaid Cymru wedi pleidleisio o fwyafrif i ymuno â’r Cabinet ac wedi cyflwyno enwebiadau tra’n aros derbyn cadarnhad gan eu Bwrdd Gweithredol yng Nghaerdydd,” meddai Hugh Evans.

“Dw i’n credu bod Plaid Cymru yn colli cyfle, a dw i’n drist fod ein cynrychiolwyr Plaid Cymru yn lleol wedi cael eu gwrthod gan Gaerdydd.

“Mi fydda’ i rwan yn gofyn am enwebiadau pellach i gael eu hystyried ar gyfer y Cabinet ac i redeg busnes y cyngor er lles ei drigolion a chymunedau.”

Ymateb Plaid Cymru 

Mewn ymateb i ddatganiad Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fe ddaeth ymateb, yn uniaith Saesneg, gan lefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Fe fu cyfarfod grwp Plaid Cymru heddiw (ddydd Mercher) ac mae’r grwp wedi penderfynu peidio bod yn rhan o’r weinyddiaeth sy’n cael ei hargymell ar gyfer Sir Ddinbych.

“Dydi’r grwp ddim yn hyderus y byddai ei raglen uchelgeisiol yn cael ei gwireddu gan drefniadaeth sy’n cynnwys y blaid Geidwadol.

“Mae Plaid Cymru yn agored i sefydlu trefn newydd o weinyddiaeth.”