Cynghorydd Wyn Jones, arweinydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae Arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi amddiffyn penderfyniad y blaid i wrthwynebu clymblaid â chynghorwyr Torïaidd.

Mae’r Cynghorydd Wyn Jones yn cefnogi penderfyniad pencadlys Plaid Cymru, meddai, i wrthd cynnig Gareth Jones y dylid ffurfio clymblaid a fyddai’n gymysgedd o Bleidwy, Ceidwadwyr a chynghorwyr annibynnol.

O ganlyniad, fe ddaeth cyhoeddiad gan Gareth Jones nos Fawrth ei fod wedi gadael grwp Plaid Cymru ar y cyngor. Cyn hynny, roedd unig ddau gynghorydd arall Plaid Cymru yng Nghonwy – Trystan Lewis a Garffild Lloyd Lewis – wedi ymddiswyddo o’r cabinet oherwydd eu bod yn amharod i gydweithio â Thorïaid.

“Dw i’n gefnogol o benderfyniad grŵp gweithredol y blaid,” meddai Wyn Jones wrth golwg360. “Rydan ni i gyd yma i wneud y gorau i bobol Conwy.

“Yn amlwg, mi rydan ni’n rhan o Blaid Cymru ac yn gweithredu yn ôl canllawiau Plaid Cymru ac yn hapus iawn i wneud hynny fel grŵp,” meddai wedyn. “Rydan ni’n credu mai’r peth gorau i Blaid Cymru yng Nghonwy yw i fod yn wrthblaid.”

Anghytuno â Gareth Jones 

Mae Wyn Jones yn derbyn – ac yn anghytuno ar yr un pryd – â phenderfyniad Arweinydd y Cyngor, Gareth Jones, i adael grŵp y blaid a pharhau fel arweinydd annibynnol dros glymblaid.

“Dw i’n anghytuno gyda’i benderfyniad, ond ei benderfyniad o ydi o,” meddai Wyn Jones wrth golwg360.

“Yn amlwg, mae gwahanol aelodau yn mynd i gael gwahanol farn ar wahanol bethau ar wahanol adegau.”