Mae Cyngor Sir Gâr wedi cadarnhau nad ydyn nhw erioed wedi defnyddio’r gorchudd oedd i’w gael ar fflatiau Tŵr Grenfell wrth godi fflatiau.

Dywedodd y Cyngor mewn datganiad fod gorchudd o fath gwahanol yn cael ei ddefnyddio ar eiddo drwy’r sir.

Wrth gadarnhau bod ganddyn nhw weithdrefnau diogelwch tân cadarn n eu lle, dywedodd y Cyngor y byddai ei raglen asesu risg tân yn cael ei hadolygu.

“Balch”

Dywedodd Pennaeth Tai, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Darparwyr y Cyngor, Robin Staines fod y Cyngor yn “falch” o’i statws fel awdurdod ‘Arfer Gorau’ y mae wedi’i dderbyn gan y Gwasanaeth Tân.

“Tra bod 12 o flociau o fflatiau o dan berchnogaeth y Cyngor yn Sir Gaerfyrddin, mae’r rhain yn adeiladau tri neu bedwar llawr ac nid yn adeiladau uchel.

“Nid oes gwaith gorchuddio wedi’i wneud ar y blociau hyn.

“Lle cafodd insiwleiddio allanol ei ychwanegol at eiddo arall yn ein stoc, mae’r deunydd a gafodd ei ddefnyddio wedi’i wirio’n drylwyr o ran diogelwch tân ac nid yw’n blasting nac yn alwminiwm, fel yr un a gafodd ei ddefnyddio yn Nhŵr Grenfell.”

Ychwanegodd fod holl eiddo’r Cyngor yn cynnwys larymau mwg a charbon monocsid, a bod y Cyngor yn “cymryd diogelwch ein tenantiaid a’n cyfrifoldebau fel landlord o ddifrif”, ac y bydd rhagor o archwilio’n digwydd a mwy o gyngor yn cael ei roi i denantiaid maes o law.