Ysgol Llangennech, (Llun: Y Byd ar Bedwar)
Mae ffrae wedi codi ar y gwefannau cymdeithasol wrth i bobol rannu stori gan y Guardian yn ymwneud â darpariaeth addysg Gymraeg.

Un sydd wedi cwyno fod yr erthygl yn “unochrog” yw’r Gymraes Rhiannon Cosslett sy’n ysgrifennu i’r Guardian ei hun.

Dywedodd ar wefan gymdeithasol Twitter – “…dw i’n drist gyda pha mor unochrog yw’r erthygl hon ac mi fyddaf yn cwyno i’r golygydd darllenwyr.”

Ychwanegodd ei bod yn teimlo nad yw’r erthygl wedi rhoi “ystyriaeth i siaradwyr iaith leiafrifol.”

Mae’r Guardian wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod wedi derbyn cwynion am yr erthygl ac yn adolygu’r sylwadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Guardian News & Media – “mae golygydd annibynnol darllenwyr The Guardian ar hyn o bryd yn adolygu’r sylwadau sydd wedi’u derbyn am yr erthygl dan sylw.”

‘Cymraeg yn unig’

Cafodd yr erthygl ar-lein ei chyhoeddi heddiw (Mehefin 20) ac mae fersiwn wedi ymddangos yn y papur hefyd gyda’r pennawd yn gofyn cwestiwn a ydy addysg “Gymraeg yn unig” yn “offer gwleidyddol sy’n niweidio plant?”

Mae’r erthygl yn cyfeirio’n benodol at ffrae addysg Gymraeg Llangennech, lle bleidleisiodd Cyngor Sir Gâr ym mis Ionawr i droi’r ysgol o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol ffrwd Gymraeg.

Mae cyfweliadau â rhiant o’r ardal sydd wedi anfon ei phlant i ysgol arall o ganlyniad i’r ffrae yn ogystal â chyfweliad â’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost o Brifysgol Caerdydd, Ceri Owen o’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg a llefarydd o fudiad Achub y Plant.

Mae sylw mudiad Achub y Plant yn nodi – “os bod iaith ysgol yn wahanol i’r iaith sy’n cael ei ddefnyddio gan blant yn y cartref, gall hyn fod yn achos mawr o fethiant addysgiadol.”

Mae nifer wedi tynnu sylw at gymal addysg “Cymraeg yn unig” gan nodi mai addysg ddwyieithog sy’n cael ei ddarparu.

Ymateb Achub y Plant 

Yn y cyfamser, mae mudiad Achub y Plant wedi cyhoeddi ar Twitter – “hoffwn nodi ein bod yn trin holl ieithoedd yn hafal yma, ac nad oeddem wedi darparu dyfyniad i The Guardian ar addysg cyfrwng Cymraeg.”

Mae’n ymhelaethu i ddweud fod y dyfyniad wedi’i godi o ganllaw am bwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol mewn addysg ac wedi’i gynhyrchu ar gyfer pobol sy’n cynorthwyo mewn gwledydd yn rhanbarth Asia/ Môr Tawel – “i ddatblygu gwasanaethau effeithiol addysg amlieithog.”