Mae cyffur sydd yn trin canser y fron wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae Roche, gwneuthurwr y cyffur Kadcyla®, wedi cytuno i’r un telerau mynediad masnachol sydd â Gwasanaeth Iechyd Lloegr ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Cymru, gan olygu bydd modd i gleifion o Gymru sydd â rhai mathau o ganser datblygedig y fron fanteisio ar y driniaeth.

Cafodd y cytundeb ei alluogi gan y Gronfa Triniaethau Newydd, sy’n werth £80 miliwn a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael cyn gynted â phosib, ac o fewn deufis i argymhelliad y corff NICE, sy’n cymeradwyo meddyginiaethau.

“Cyffur arloesol”

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wella’r ffordd y mae triniaethau arloesol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth iechyd,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Dyna’r rheswm dros gyflwyno cronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn yng Nghymru. Bydd y gronfa’n cael ei defnyddio i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at y cyffur arloesol hwn sy’n ymestyn bywydau.”