Mae dull cryfach i fynd i’r afael â’r diciâu (TB) wedi’i chyhoeddi gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, yn y Senedd heddiw.

Wrth gyhoeddi’r rhaglen newydd dywedodd Lesley Griffiths ei bod wedi “gwrando ar ymatebion y diwydiant” i’w ymgynghoriad.

O Hydref 1 eleni, mi fydd ardaloedd TB isel, canolradd ac uchel yn cael eu sefydlu yng Nghymru ar sail lefelau achosion o’r diciâu mewn gwartheg.

Mewn Ardaloedd TB isel – ac ardaloedd TB canolradd o 2018 ymlaen – mi fydd ‘profion ar ôl symud’ yn cael eu cyflwyno er mwyn nodi anifeiliaid sydd wedi’u heintio.

Ar y llaw arall mewn ardaloedd TB uchel bydd pob buches â TB cronig yn wynebu “cynllun gweithredu unigol” a “mesurau rheoli” arbennig sy’n anelu’n benodol at glirio’r haint mewn gwartheg, cyhoeddodd Lesley Griffiths.

Pan fydd tystiolaeth mai moch daear sydd yn gyfrifol am heintio bydd “amrywiaeth o opsiynau” yn cael eu hystyried gan gynnwys difa moch daear, ond mae Lesley Griffiths yn parhau i ddiystyru rhaglen ddifa ar raddfa fawr.

“Gwir gynnydd”

“Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gwneud gwir gynnydd tuag at ddileu TB yng Nghymru. Mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng 40% ers y lefel uchaf yn 2009. Ar hyn o bryd mae 95% o fuchesi yng Nghymru heb TB,” meddai Lesley Griffiths.

“Dw i wedi gwrando ar ymatebion y diwydiant i’n hymgynghoriad a dw i wedi cynnwys beth oedd yn briodol ac yn rhesymol yn y Rhaglen.

“Ni ddylid ystyried hyn yn gynllun y Llywodraeth yn unig; mae wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori â’r diwydiant a chaiff ei adolygu dros amser.

“Galwaf yn awr ar y diwydiant ffermio a’r proffesiwn milfeddygol i chwarae rhan lawn ynddi. Gyda’n gilydd gallwn gyflawni ein nod o gael Cymru heb TB.”