Safle tirlenwi (Cezary P CCA 4.0)
Mae disgwyl i Weinidogion Llywodraeth Cymru lunio a chyhoeddi cynllun i wella amodau pobol a chymunedau sy’n byw’n agos at safleoedd tirlenwi a gwastraff.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru baratoi mesur – Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – fydd yn disodli’r dreth dirlenwi yng Nghymru pan fydd trethi’n cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018.

“Ymhen blwyddyn, bydd y trethi Cymreig cyntaf ers bron 800 mlynedd yn cael eu cyflwyno,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

“Mae hon yn garreg filltir hanesyddol yn nhaith datganoli Cymru wrth inni ddod yn gyfrifol am godi ein cyllid ein hunain i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus.”

Prosiectau cymunedol

Esboniodd ei fod am greu cynllun er lles cymunedau pan fydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyflwyno.

“Mae’r manteision y mae’n eu darparu i gymunedau gerllaw safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn amlwg ac yn niferus,” meddai.

 

Esboniodd y bydd y cynllun yn cael ei ariannu drwy ddefnyddio rhywfaint o’r refeniw a godir drwy dreth gwarediadau tirlenwi, gyda phenderfyniad am y swm yn yr hydref.

“Bydd y cynllun grant newydd yn canolbwyntio ar dri maes – bioamrywiaeth, gwelliannau amgylcheddol a lleihau gwastraff,” meddai Mark Drakeford.

“Bydd yn helpu i wella ein hamgylchedd ac yn sicrhau bod cynifer o gyllid â phosibl yn cyrraedd y prosiectau cymunedol hynny y bydd gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi yn effeithio arnynt fwyaf.”