Mae teulu’r dyn sy’n cael ei holi gan yr heddlu mewn cysylltiad â’r ymosodiad ger mosg yn Llundain wedi dweud eu bod nhw mewn “sioc lwyr” a’u bod yn cydymdeimlo a’r rhai gafodd eu hanafu.

Cafodd Darren Osborne, 47, y credir sy’n dad i bedwar o blant o Bentwyn, Caerdydd, ei arestio ar ôl i gerddwyr gael eu targedu gan ddyn yn gyrru fan ger Mosg Finsbury Park yng ngogledd Llundain yn gynnar ddydd Llun. Roedd nifer o addolwyr yn gadael cwrdd gweddi hwyr.

Mewn datganiad ar ran y teulu dywedodd Ellis Osborne, 26, nai Darren Osborne: “Ry’ ni mewn sioc lwyr, mae’n anodd credu’r peth.”

Ychwanegodd eu bod wedi eu tristau’n fawr wrth feddwl am y teuluoedd a bod eu meddyliau gyda’r rhai gafodd eu hanafu.

Dywedodd Ellis Osborne nad oedd ei ewythr yn “hiliol” ac nad oedd erioed wedi mynegi sylwadau hiliol ond mae’r teulu wedi dweud ei fod wedi bod “yn cael trafferthion” ers peth amser.

Yn ôl llygad dystion roedd y dyn wedi gweiddi ei fod eisiau “lladd Mwslimiaid” pan gafodd ei ddal gan aelodau o’r cyhoedd tu allan i’r mosg.

“Brawychiaeth”

Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain wedi cludo naw o bobl i dri gwahanol ysbyty. Cafodd dau o bobl eraill eu trin am fan anafiadau ar y safle.

Bu farw un dyn ar y safle ond mae’r heddlu’n dal i geisio darganfod a oedd wedi marw o ganlyniad i’r ymosodiad neu o achosion naturiol gan ei fod wedi bod yn cael cymorth cyntaf cyn y digwyddiad.

Cafodd y dyn ei arestio’n wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio ond mae Scotland Yard yn dweud ei fod wedi’i arestio’n ddiweddarach ar gyhuddiad  o gynllwynio, paratoi a gweithredu brawychiaeth, ynghyd a llofruddio a cheisio llofruddio.

Maen nhw’n credu ei fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun.

“Methu credu’r peth”

Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio eiddo ym Mhentwyn, lle credir bod Darren Osborne yn byw.  Yn ol adroddiadau mae’n dod o Wlad yr Haf yn wreiddiol.

Dywed trigolion yng Nghaerdydd eu bod wedi’u “synnu” o weld lluniau o’u cymydog yn cael ei arestio yn Llundain.

Dywedodd Khadijeh Sherizi ei bod hi’n “methu credu’r peth.”

“Mae e wedi bod mor normal. Roedd yn ei gegin bnawn ddoe (Sul) yn canu gyda’i blant.”