Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood,
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Theresa May o geisio “gorfodi cynlluniau Brexit”, yn sgil adroddiadau na fydd Araith y Frenhines yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

Mae’n debyg bod Theresa May yn gobeithio newid y drefn fel bod Araith y Frenhines, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ar hyn o bryd, yn cael ei chynnal unwaith bob dwy flynedd.

Pwrpas Araith y Frenhines yw amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth  ar gyfer sesiwn seneddol newydd ac i roi cyfle i weinidogion graffu dros ei chynnwys.

Gan fod y rhaglen yn ddibynnol ar bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin mae Leanne Wood wedi dadlau y byddai “osgoi” yr araith yn galluogi’r Ceidwadwyr i weithredu cynlluniau heb wrthwynebiad.

“Ymdrechion sinigaidd”

“Mae Plaid Cymru yn gwrthod ymdrechion sinigaidd y Torïaid i orfodi cynlluniau Brexit May drwodd heb graffu priodol,” meddai Leanne Wood.

“Drwy gael gwared ar Araith y Frenhines y flwyddyn nesaf, mae’r Prif Weinidog yn osgoi rhoi ei chynlluniau deddfwriaethol i bleidlais. Mae hyn yn annemocrataidd ac annerbyniol.”

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio i …  atgoffa’r Prif Weinidog nad oes ganddi unrhyw fath o fandad i orfodi ei rhaglen ddeddfwriaethol drwodd heb graffu priodol.”

Gohirio

Mae Araith y Frenhines eleni eisoes wedi cael ei gohirio o ganlyniad i’r trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP.

Bellach mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd Agoriad Swyddogol y Senedd ynghyd ag Araith y Frenhines yn cael ei chynnal ar Fehefin 21.