Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoedd enwau’r saith fydd yn cael eu gwahodd i fod yn Llywyddion Anrhydeddus yn y brifwyl yng Nghaerdydd yn 2018.

Yn eu plith mae’r sylwebydd chwaraeon Huw Llywelyn Davies, sydd hefyd wedi cyflwyno rhaglenni’r Eisteddfod am flynyddoedd.

Yr enwau eraill ydy’r artist Anthony Evans; cyn-lywydd Merched y Wawr, Gill Griffiths; dau o aelodau Cwmni Dawns Werin Caerdydd, Dai a Gill James; Aelod o Fwrdd Rheoli Menter Iaith Caerdydd, Rhun Jones yn ogystal ag arweinydd Côr Caerdydd, Gwawr Owen.

Mae’r saith wedi’u henwebu am eu “cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a’r Gymraeg yn lleol.”

‘Gweithio’n ddiflino’

 

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ar Fehefin 24 ar lawnt Neuadd y Ddinas.

Yn ôl Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol – “mae’n bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro’r Eisteddfod.”

“Dyma bobol sy’n gweithio’n ddiflino drwy’r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio. Heb y bobol yma, byddai Caerdydd yn dipyn tlotach ei diwylliant.”

‘Gwahanol i’r arfer’

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Llywyddion dros y flwyddyn nesaf gydag Eisteddfod Caerdydd yn “wahanol i’r arfer” wrth iddi arbrofi trwy gynnal gweithgareddau mewn lleoliadau ledled y brifddinas, gan gadw’r “ymdeimlad o faes.”

Llywyddion Anrhydeddus yr ŵyl ym Môn eleni yw Dewi Jones, Edward Morus Jones, Gladys Pritchard, Ellis Wyn Roberts, Nia Thomas ac Islwyn Williams.