Safle cwmni Pontyclun Van Hire (Llun: Claire Hayhurst/PA Wire)
Mae’r cwmni ym Mhont-y-clun, y credir oedd wedi llogi’r fan a gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad ger mosg yn Llundain, wedi dweud eu bod wedi’u “synnu a’u tristau.”

Roedd lluniau o’r fan wen fu’n gysylltiedig â’r ymosodiad yn Finsbury Park yng ngogledd Llundain, yn dangos logo cwmni Pontyclun Van Hire.

Mae staff y cwmni ger pentref Pont-y-clun, yn Rhondda Cynon Taf wedi dweud eu bod yn cydweithredu’n llawn gyda’r heddlu.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: “Rydym ni yn Pontyclun Van Hire wedi ein synnu a’n tristau gan y digwyddiad yn Finsbury Park neithiwr.

“Rydym yn cydweithredu’n llawn gydag ymchwiliad yr Heddlu Metropolitan ac mae ein meddyliau gyda’r rhai sydd wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiad llwfr yma.

“Ni fyddwn yn gwneud datganiad pellach oherwydd bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau ond fe fyddwn yn parhau i gynorthwyo’r heddlu mewn unrhyw fodd.”

Mae’r heddlu wedi bod yn bresennol ar safle’r cwmni drwy gydol y dydd.

“Sioc”

Yn y cyfamser mae trigolion y pentref wedi son am eu sioc o glywed am y cysylltiad posib a Phont-y-clun.

Dywedodd Christine Batchelor sy’n gwirfoddoli yng Nghanolfan Gymunedol Pont-y-clun: “Mae Pont-y-clun yn lle mor fach dy’ch chi ddim yn disgwyl iddo fod yn gysylltiedig ag unrhyw beth fel hyn.

“Ry’n ni’n rhan o’r gymuned ac rydan ni wedi cael cyfarfod yma heddiw. Roedd yn sioc fawr i bawb glywed hyn.”