Cadw dau yn y ddalfa ar gyhuddiad o geisio llofruddio

Diweddarwyd am  


Llys Ynadon Llandudno
Mae dau ddyn wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl mynd gerbron ynadon Llandudno bore ma ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn 23 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Coetir Orllewinol ym Mae Colwyn am 2.30 fore Sadwrn, 17 Mehefin yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd.

Cafodd y dyn, sy’n dod o’r ardal leol, ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau difrifol.

Mae e bellach wedi cael ei drosglwyddo i  ysbyty yn Stoke lle mae mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn dilyn y digwyddiad.

Mae Cody James Allen, 18 oed, o ardal Cyffordd Llandudno a  Kyle Mark Rochell, 27, o ardal Mochdre, wedi’u cyhuddo o geisio llofruddio ac o fod ag arf yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.

Fe fu’r ddau yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon yfory.

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod V088935.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?