Llun: Gwefan Cyngor Powys
Mae aelodau o Gabinet Cyngor Sir Powys wedi cwrdd â rhieni i drafod dyfodol ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu.
Daw hyn er gwaetha’r penderfyniad ym mis Mawrth eleni lle wnaeth y Cabinet bleidleisio o blaid cynllun i gau’r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol a chanoli’r ddarpariaeth yn Llanfair ym Muallt.
“Mae hwn yn Gabinet newydd ac rydym yn awyddus i gwrdd â’n cymunedau ni’n gyson i glywed eu barn,” meddai’r Cynghorydd James Evans am y cyfarfod ddydd Mawrth diwethaf (Mehefin 13).
Mae disgwyl i Gynghorwyr drafod yr ymateb yn un o gyfarfodydd nesa’r Cabinet yr haf hwn.
‘Gwrando ar gymunedau’
“Fe’n hetholwyd gan drigolion i newid Powys, ac mae gwrando ar gymunedau’n rhan hanfodol o’r broses honno,” ychwanegodd James Evans.
“Rwy’n gobeithio y bydd y cyfarfod am yr ysgol a mynd i Siambr Fasnach Aberhonddu’n sicrhau ein cymunedau ein bod ni yma i wrando.”
Yn rhan o’r cyfarfod hefyd oedd Arweinydd y Cyngor Rosemarie Harris ynghyd â’r cynghorwyr Myfanwy Alexander, Liam Fitzpatrick a Martin Weale.
Ffrwd Gymraeg
Mae rhieni wedi codi pryderon am y penderfyniad i gau’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu gan rybuddio y gallai arwain at lai o bobol yn astudio drwy’r Gymraeg oherwydd y pellter i deithio i Lanfair ym Muallt sydd tua 16 milltir i ffwrdd.
Byddai hyn yn golygu mai ysgol cyfrwng Saesneg yn unig fyddai Aberhonddu ac, ar hyn o bryd, Powys yw un o’r ychydig siroedd yng Nghymru heb ysgol uwchradd benodedig cyfrwng Cymraeg.