Porthladd Caergybi
Bydd Aelodau Cynulliad yn cwrdd â chynrychiolwyr busnes a gwleidyddion yn Nulyn heddiw er mwyn trafod Brexit, porthladdoedd a pherthynas Cymru ac Iwerddon.

Mae taith Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad yn cael ei chynnal fel rhan o ymchwiliad i effaith Brexit ar borthladdoedd Cymru ac mae’n cyd-daro â dechreuad swyddogol trafodaethau Brexit.

Bydd aelodau’r pwyllgor yn cwrdd â Gweinidog Trafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon Iwerddon, Swyddfa Datblygu Forol Iwerddon a’r Gymdeithas Allforio Wyddelig.

Mae pryderon y gall ffin feddal rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn dilyn Brexit, arwain at gwmnïau cludo yn osgoi Cymru lle fyddai rheoliadau a thollau llymach.

“Risgiau a chyfleoedd”

“Mae’r Pwyllgor Materion Allanol ar hyn o bryd yn ystyried goblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Pwyllgor.

“Fel rhan o’r ymchwiliad mae’r Pwyllgor yn ystyried risgiau a chyfleoedd a ddaw i borthladdoedd Cymru yn sgil Brexit, ac rydym am ofyn pa gamau y dylwn gymryd i leihau’r risgiau a diogelu unrhyw fanteision.”