Fe fydd dau ddyn yn mynd gerbron ynadon Llandudno heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn 23 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Woodland Road West ym Mae Colwyn am 2.30 fore Sadwrn, 17 Mehefin yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd.

Cafodd y dyn, sy’n dod o’r ardal leol, ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau difrifol.

Mae e bellach wedi cael ei drosglwyddo i  ysbyty yn Stoke lle mae mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn dilyn y digwyddiad.

Mae Cody James Allen, 18 oed, o ardal Cyffordd Llandudno a  Kyle Mark Rochell, 27, o ardal Mochdre, wedi’u cyhuddo o geisio llofruddio ac o fod ag arf yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.

Fe fydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw (dydd Llun, 19 Mehefin).

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod V088935.