Elfed Roberts (Llun: Eisteddfod)
Fe fydd plant mewn ysgolion cynradd yn Ynys Môn yn cael cyfle i ddysgu mwy am yr Eisteddfod ar ôl i becyn Cyfnod Allweddol 2 newydd gael ei greu.

Ysgol Bryngwran yw’r ysgol gyntaf i dderbyn y pecyn ar drothwy’r Brifwyl ym Modedern (Awst 4-12), a bydd ysgolion eraill yn derbyn y pecyn dros yr wythnosau nesaf.

Y pecyn

Yn ogystal, bydd pob ysgol yn derbyn pecyn sy’n cynnwys gwersi dosbarth, gwaith cartref a gwaith grŵp ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3,4,5 a 6.

Mae’r pecyn yn cynnwys gweithgareddau sy’n datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol, ac mae hefyd yn cefnogi amcanion y Siarter Iaith sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion.

Dywedodd Dafydd Idriswyn Roberts, sy’n aelod o Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ac yn bencampwr y Siarter Iaith ar draws Ynys Môn, “Mae’n bleser gweld y pecyn deniadol yma’n cael ei lansio yn Ysgol Bryngwran.  Rwy’n sicr y bydd y plant wrth eu boddau’n dysgu am yr Eisteddfod, yn enwedig gan fod yr ŵyl yn cael ei chynnal ar stepen y drws eleni.

“Rydw i’n arbennig o falch o weld amcanion y Siarter Iaith mor amlwg yn y pecyn yma, ynghyd â chyfle i’r plant ddefnyddio pob math o sgiliau wrth iddyn nhw ddysgu am yr Eisteddfod.

“Rydw i hefyd yn falch y bydd pob plentyn CA2 yn derbyn gwybodaeth am yr Eisteddfod i fynd adref, gan gynnwys manylion am y cynllun bargen gynnar sy’n dod i ben ddiwedd Mehefin.

“Gobeithio y bydd y plant yn cael mwynhad o ddysgu am yr Eisteddfod ac y bydd yn codi blas arnyn nhw i ddod i Fodedern ddechrau Awst, gan y bydd ‘na gannoedd o weithgareddau teuluol ar hyd a lled y Maes.”

‘Adnodd defnyddiol’

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: “Rydym wedi bod yn awyddus i gyflwyno gwybodaeth i blant mewn ffordd fwy strwythuredig ers tro, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ein galluogi i wneud hynny, a chreu pecyn sy’n ddeniadol ac am fod yn adnodd defnyddiol ar lawr y dosbarth.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Hanna Huws o Fenter Iaith Môn am ei baratoi ar ein cyfer, ac rwy’n sicr y bydd y gwersi a’r gweithgareddau amrywiol yn siŵr o ysbrydoli plant ar draws blynyddoedd 3-6.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael ymateb gan y plant a’r athrawon, ac yn gobeithio y bydd hwn yn becyn y gellir ei ddatblygu a’i ddefnyddio yn y dyfodol wrth i ni ymweld ag ardaloedd eraill o Gymru.

“Gellir addasu’r cynnwys yn hawdd iawn i adlewyrchu gwahanol ardaloedd, a gallai fod yn ddefnyddiol iawn wrth i’r Siarter Iaith gael ei chyflwyno mewn siroedd ar hyd a lled Cymru.”

Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol gynradd yn Ynys Môn dros y dyddiau nesaf, ynghyd â’r llyfryn addysg a theuluoedd.  Mae’r adnoddau i gyd hefyd i’w gweld ar wefan yr Eisteddfod, https://eisteddfod.cymru/addysg.