Mae’r heddlu’n apelio yn dilyn marwolaeth 15 oed o Gaerffili y bore ma.
Cawson nhw eu galw yn dilyn pryderon am ei hiechyd.
Aeth parafeddygon gyda’r heddlu i roi cymorth iddi, ond bu farw’n fuan wedyn.
Dydy hi ddim yn glir eto sut y bu farw’r ferch, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Mae pedwar o bobol yn y ddalfa mewn perthynas â’i marwolaeth, ac mae ei theulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.