Mae heddlu yn Abertawe yn ymchwilio i ymosodiad ddigwyddodd yn ardal Penlan y ddinas yn ystod oriau mân dydd Sadwrn.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 1.43yb, ac fe gafodd dyn lleol 41 oed ei gludo i Ysbyty Treforys, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth.

Mae dyn 42 oed o ardal Abertawe wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac mae bellach yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu canol y ddinas. Dyw plismyn ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Ond maen nhw’n galw ar i unrhyw dystion i ffonio Heddlu De Cymru ar y rhif 101, neu i alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.