Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd Canolfan Les yn agor ym Maes B eleni i roi cymorth i bobol sy’n gwersylla neu’n ymweld â’r maes.

Daw hyn wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn ymgyrch arbennig o’r enw ‘Diogelwch personol mewn gwyliau’.

Mae’r ymgyrch wedi’i threfnu gan Asiantaeth Gwyliau Annibynnol (AIF) sy’n cynnwys gwyliau fel Bestival, Isle of Wight Festival a Gŵyl Rhif 6.

Mae’r ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth am ymosodiadau rhywiol a throsglwyddo negeseuon am beth yw “cydsyniad.”

‘Cymorth a chysur’

“Rydym yn derbyn cyngor cyson gan yr AIF a’r heddlu ar bob math o agweddau o fewn y diwydiant gwyliau, ac yn ddiweddar wedi ymrwymo i fod yn rhan o ymgyrch targed yr AIF am eleni sef ymgyrch ‘Diogelwch personol mewn gwyliau,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

“Eleni bydd ganolfan lles ym Maes B yn cynnig cymorth a chysur i fynychwyr Maes B petaen nhw ei angen.”

Maen nhw hefyd yn pwysleisio eu hagwedd llym o ‘Ddim Goddefgarwch’ at gyffuriau gan egluro fod cŵn synhwyro o gwmpas a’i bod yn bosib i bobol gael eu harestio, gael cofnod troseddol neu eu hel o’r safle.