Aled Haydn Jones, Pennaeth Rhaglenni Radio 1
Mae cyflwynydd radio o Aberystwyth wedi’i benodi’n Bennaeth Rhaglenni, Radio 1.

Mae Aled Haydn Jones yn Gymro Cymraeg sydd wedi darlledu ar Radio Cymru yn y gorffennol. Mae’n olyn Rhys Hughes ym mhrif swydd yr orsaf gerddoriaeth.

Fe ddaeth Aled Haydn Jones i amlygrwydd yn ystod ei gyfnod yn cynhyrchu sioe’r troellwr disgiau, Chris Moyles, ar Radio 1. Ers hynny, mae wedi bod yn cyflwyno The Surgery, ac mae’n uwch gynhyrchydd gyda’r orsaf.

Fe ymunodd â’r orsaf yn 1998, gan weithio fel Cynorthwy-ydd Darlledu ar y Roadshow. Fe ymunodd â sioe Chris Moyles yn 2002, cyn symud efo’r cyflwynydd i slot y sioe frecwast yn 2004.

Meddai Aled Haydn Jones ar wefan Twitter, wrth rannu â’r byd y newydd am ei ddyrchafiad: “Dw i’n falch iawn o gyhoeddi fod gen i swydd newydd! Anrhydedd yw cael dweud mai fi ydi Pennaeth Rhaglenni newydd @BBCR1!”

Mae Rhys Hughes wedi symud o Radio 1 i weithio ar orsaf BBC Music am flwyddyn.