Mae’r ddau filwr fu farw yn dilyn digwyddiad ar faes tanio yn Sir Benfro, wedi cael eu henwi.

Bu farw’r Corporal Matthew Hatfield a’r Corporal Darren Neilson, o Gatrawd Frenhinol y Tanc, o’u hanafiadau yng Nghastell Martin ddydd Mercher yr wythnos hon.

“Mae’r gatrawd wedi colli dau gymeriad, ac roedd hi’n anrhydedd gweithio ochr yn ochr gyda nhw,” meddai’r Is Gyrnol, Simon Ridgway.

Mae dau filwr arall, oedd hefyd yn rhan o’r digwyddiad, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd gwaharddiad byd eang ei weithredu am ddeuddydd ar y math o ffrwydron oedd yn cael eu defnyddio yng Nghastell Martin