Leanne Wood
Mae angen mwy na newid arweinydd er mwyn i Blaid Cymru wneud cynnydd o bwys mewn etholiadau, yn ôl un o gyd-gadeiryddion cangen ieuenctid Plaid Cymru.

‘Yr hyn dw i’n dweud yw, dyw newid gyrrwr car sydd ddim yn gweithio’n iawn ddim yn mynd i’w wneud yn gyflymach,’ meddai Emyr Gruffydd ar Facebook.

Roedd yn ymateb i flog ar wefan newyddion Nation.Cymru, sy’n dadlau ei bod yn bryd i Leanne Wood gamu o’r neilltu yn dilyn “rhai canlyniadau ofnadwy” i’r Blaid yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Fe lwyddodd Plaid Cymru i gipio sedd Ceredigion ond fe wnaeth canran ei phleidlais leihau ar y cyfan, gan gynnwys yn rhai o’r ardaloedd yr oedd y Blaid wedi dargedu, fel y Rhondda a Llanelli.

“Mae e’ i wneud â threfniadaeth”

Dywedodd Emyr Gruffydd wrth golwg360 ei fod am weld Leanne Wood yn aros yn ei swydd.

“Mae e i wneud â threfniadaeth, lle mae trefniadaeth dda ryn ni’n neud yn dda,” meddai, wrth sôn am allu’r blaid i gasglu digon o gefnogwyr ar y tir i ymgyrchu a chnocio drysau mewn etholiadau.

“Dw i jest yn credu mai gwella trefniadaeth ac adeiladu mudiad cryf sydd angen, ac mae hwnna’n waith i bawb, pwy bynnag fydd yr arweinydd.”

Wrth wneud sylwadau yn ymateb i’r blog ar dudalen Facebook Nation.Cymru, dywed Emyr Gruffydd fod angen atebion yn hytrach na chodi cwestiynau am arweinyddiaeth Leanne Wood.

“Yr un peth nad yw pobol sy’n dadlau dros newid yn gallu ateb yw sut fydd newid yn arwain at lwyddiant etholiadol,” meddai.

“Sut fydd newid mewn arweinydd yn sicrhau bod canghennau ac ymgyrchoedd yn cael eu trefnu’n well? Sut fydd e (achos bydd yn ddyn [yr arweinydd newydd]) yn cryfhau delwedd gorfforaethol y blaid?”