Twm Morys
Mae cwmni gwerthu tai ym Mhorthmadog wedi mynnu mai “camgymeriad” oedd peidio â chynnwys y Gymraeg ar arwydd yn hysbysebu tai newydd yng Nghricieth.

Yn ei golofn yn Y Cymro heddiw mae’r Prifardd Twm Morys yn dweud iddo dynnu sylw Beresford Adams at eu hysbyseb uniaith Saesneg yng Nghricieth.

Mae pedwar tŷ ar werth am £499,500 yr un gan gwmni Beresford Adams yn Lôn Tŷ’n Llan, ond heblaw am enw’r datblygiad – Sibrwd y Coed – nid oes gair o Gymraeg ar eu bwrdd hysbysebu.

“Fel arfer, mae ein byrddau hysbysebu yn ddwyieithog,” meddai Is-reolwr Beresford Adams Porthmadog, Stephen Smith, wrth golwg360.

“Cafodd arwydd y datblygiad yma ei wneud gan ein cwmni lleol, ac mi wnaethon nhw gamgymeriad trwy wneud hi’n Saesneg ond ddim yn Gymraeg. Dyna i gyd. Mae arwydd Cymraeg wedi cael ei harchebu.”

‘Tai i bobol o ffwrdd’

Yn ei golofn farddol yn rhifyn diweddaraf  Y Cymro mae Twm Morys yn dweud: ‘Mae’r arwydd sydd yn hysbysebu’r tai yn y cwr Cymreigaidd hwn o’r wlad yn uniaith Saesneg, fel petai’r cwmni sy’n gyfrifol am eu gwerthu nhw wedi penderfynu bod yn gwbl onest a chyfaddef mai tai i bobol o ffwrdd yw’r rhain.’

Mae Beresford Adams wedi gwrthod y cyhuddiad yma gan nodi, “wrth gwrs dydyn ni ddim [yn targedu pobol y tu allan i Gymru yn unig]. Mae gan unrhyw un yr hawl i brynu’r tai. Does neb wedi cael eu heithrio.”

“Gwirioneddol niweidiol”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o’r farn bod y tai newydd tu hwnt i gyrraedd y Cymry lleol.

“Does dim modd i bobl sy’n byw ar gyflogau lleol yng Nghricieth allu prynu tai am hanner miliwn o bunnau,” meddai  Cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, Tamsin Davies.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r datblygiadau hyn sy’n wirioneddol niweidiol i’r Gymraeg. Mae gyda ni system dai, ledled y wlad, sydd i gyd am wneud elw yn hytrach na gwasanaethu pobol.

“Mae angen tai i bobl leol, nid hapchwarae gyda datblygiadau ar gyfer pobl gyfoethog o’r tu allan. Pan ddaw at y Gymraeg yn benodol, dros flwyddyn ers ymgynghori ar ganllawiau iaith newydd ym maes cynllunio, dyw’r Gweinidog Lesley Griffiths dal heb eu cyhoeddi: ydy hi’n gwneud unrhyw waith o gwbl sy’n llesol i’r Gymraeg?”