Guto Bebb
Mae’r ffaith fod y Ceidwadwyr wedi methu â sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol, yn mynd i olygu bod Llywodraeth Cymru am gael mwy o ddylanwad ar y broses Brexit.

Dyna farn Guto Bebb, AS Aberconwy, wrth i wleidyddion a sylwebwyr ddarogan bod ‘Brexit caled’ wedi ei gladdu.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw am well gwrandawiad i Lywodraeth Cymru wrth i drafodaethau Brexit gychwyn.

Gyda’r Prif Weinidog Prydeinig, Theresa May, wedi gorfod gofyn am gefnogaeth 10 Aelod Seneddol plaid y Democratic Unionist Party (DUP) er mwyn llywodraethu, mae Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhagweld y bydd mwy o lais i’r gwledydd Celtaidd eraill.

“Dw i yn credu y bydd yna fwy o wrando ar farn y Cynulliad, dw i’n credu bod hynny yn anorfod,” meddai Guto Bebb.

“Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn ddibynnol ar gefnogaeth y DUP… fedran ni ddim yn hawdd iawn wrando ar bryderon y DUP – sydd yn debyg iawn i bryderon Sinn Fein – ynghylch Brexit.

“Mae Sinn Fein a’r DUP yn gryf o blaid bod nhw yn cael ffin feddal efo’r Weriniaeth.

“Fedran ni ddim gwrando ar y DUP yn adlewyrchu pryderon y ddwy brif blaid yng Ngogledd Iwerddon pan mae hi’n dod i Brexit, ac wedyn peidio gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

“Wedi’r cyfan, yn y cyd-destun Cymreig mae hi’n deg i ddweud bod y Blaid Lafur wedi cael bron i hanner y bleidlais, ac mi fydda fo yn od petai unrhyw blaid lywodraethol yn San Steffan yn anwybyddu plaid sydd wedi cael hanner y bleidlais yng Nghymru.

“Ac wrth gwrs mae ganddo ni’r SNP a Ruth Davidson, ill dau yn frwd iawn dros gynnal cyswllt cadarn gyda’r Farchnad Sengl, sy’n awgrymu i mi y bydd angen gwrando ar yr Alban hefyd.”

“Allweddol” bod May yn aros – mwy gan Guto Bebb yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.