Y dynion di-waith ar y llwybr.
Mae grŵp o ddynion di-waith ym Merthyr Tudful wedi ennill gwobr ar ôl sefydlu llwybr ‘helfa drysor’ yn cysylltu eu tref â’r brifddinas, gan ddefnyddio technoleg lloeren i rannu gwybodaeth am hanes yr ardal.
Wrth gerdded ar hyd y llwybr o Ferthyr i Gaerdydd, mae ymwelwyr yn medru derbyn gwybodaeth am yr hyn maen nhw yn ei weld, wrth i loeren anfon gwybodaeth at eu ffonau symudol.
Drwy ddefnyddio cyfarpar GPS mae’r dynion di-waith yn rhannu hanes diwydiannol ardal y llwybr.
Ac mae o leiaf 1,000 o bobol wedi defnyddio’r dechnoleg i ddod o hyd i wybodaeth ac eitemau sydd wedi’u cuddio mewn lleoliadau gwahanol.
Mae’r dynion, sy’n cael eu galw’n ‘Only Men Allowed’, bellach wedi ennill gwobr addysg oedolion Inspire! gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Ar ôl sylweddoli bod y rhan fwyaf o bobol sy’n ymwneud â gweithgareddau cymunedol yn blant a menywod, daeth y grŵp at ei gilydd gyda help y sefydliad adfywio cymunedol Ymddiriedolaeth Datblygu 3Gs ym Merthyr Tudful.
Mae’r gwaith ar y llwybr yn parhau, gyda’r grŵp wedi ymchwilio i hanes yr ardal a nodi mannau o ddiddordeb hanesyddol.
Ar hyn o bryd mae 11 o safleoedd hanesyddol rhwng Merthyr ac Abercynon, sy’n cynnwys Parc Cyfarthfa, Peiriandy Ynysfach a Bwthyn Joseph Parry. Y bwriad yw cwblhau’r llwybr i Gaerdydd yn y dyfodol.
“Rwyf wedi dysgu cymaint am y cwm hwn a’r hanes – mae wedi gwneud i mi fod mor falch o’n gorffennol. Mae’r prosiect yn gwbl wych,” meddai un o’r dynion, Lee Stevens.
‘Denu ymwelwyr’
Dywed Eva Elliott, sy’n arwain Cymunedau Iach, Pobl Iachach, fod y grŵp wedi annog pobol i fod yn fwy actif ac wedi denu ymwelwyr i’r ardal.
“Mae’r grŵp hwn o ddynion yn esiampl anhygoel ar gyfer eu cymuned, ac mae’r hyn maent wedi’i gyflawni wedi ein hysbrydoli,” meddai.
“Yr hyn sy’n ysbrydoli yw bod y syniad wedi dod gan y grŵp, a’u bod wedi arwain ar y gwaith datblygu a gweithredu drwyddo draw, nid yn unig ym Merthyr, ond yng Nghaerdydd hefyd.”
Roedd y seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 15 Mehefin ac yn nodi lansio Wythnos Addysg Oedolion 2017 – y dathliad dysgu mwyaf yn Ewrop.