Mae adroddiad yn mynd gerbron grŵp o gynghorwyr Ceredigion heddiw sy’n argymell cau Cartref Gofal Bodlondeb yn Aberystwyth, gan beryglu 33 o swyddi.

13 o bobol sy’n byw yn y cartref ar hyn o bryd a phe bai’n cau byddai’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i rywle arall i fyw.

Yn ôl yr adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan bwyllgor craffu Cyngor Ceredigion, mae Bodlondeb wedi bod yn colli £400,000 y flwyddyn, sy’n dros £7,600 yr wythnos.

Er bod 44 o ystafelloedd gwely yn yr adeilad, dim ond 26 sy’n gallu cael eu defnyddio am nad yw’r gweddill yn cyrraedd y safonau angenrheidiol.

‘Cael gwybod ar gyfryngau cymdeithasol’

Yn ôl undeb y GMB, doedd rhai aelodau o staff ddim yn ymwybodol o gynnwys adroddiad y cyngor sir tan iddo gael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol.

“Rydym yn siomedig gyda’r penderfyniad diweddaraf hwn, newyddion a gafodd ei dorri i’r undebau ar yr un pryd ag oedd llythyrau’n cael eu hanfon at staff,” meddai llefarydd y GMB.

“Yn wir, fe welodd rhai aelodau o staff y cynlluniau ar gyfryngau cymdeithasol! Mae cyfarfodydd ymgynghori yn cael eu cynnal yn y cartref heddiw.

“Bydd y penderfyniad hwn yn arwain at ddiffyg gofal cymdeithasol hanfodol yn yr ardal hon o’r sir.”

Bu ymgyrch llwyddiannus yn erbyn cau’r cartref yn 2011.

Ymateb Cyngor Ceredigion

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion y bydd ymgynghoriad cyn unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch dyfodol y cartref gofal.

Dywedodd yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Catherine Hughes, “Mae angen sicrhau ein bod ni’n dilyn deddfwriaeth sydd allan o’n dwylo ni, ond yn bennaf oll, yn rhoi’r ddarpariaeth orau i’n bobl hŷn ni.”

“Cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud ar gau Bodlondeb, mae’n holl bwysig bod preswylwyr, teuluoedd a staff yn cael y cyfle i ddweud eu dweud. Mae’r cyfnod 12 wythnos yma’n rhoi’r cyfle yna iddynt.”