Mae ail filwr wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thanc ar faes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sir Benfro.

Roedd y ddau o’r Gatrawd Tanc Frenhinol ac wedi’u hanafu ar y safle hyfforddi milwrol yng Nghastell Martin brynhawn ddydd Mercher, meddai’r Gweinidog Amddiffyn, Tobias Ellwood.

Mae dau filwr arall, sydd mewn cyflwr difrifol, yn dal i gael triniaeth am eu hanafiadau.

“Gyda thristwch mawr, gallaf gadarnhau marwolaeth ail filwr o’r Gatrawd Tanc Frenhinol yn dilyn y digwyddiad ddoe ar Faes Castell Martin,” meddai Tobias Ellwood.

Mae’r maes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion saethu tanciau.

Yn fuan wedi 3:30 y prynhawn, daeth parafeddygon i’r safle, gan fynd â dau ddyn i Ysbyty Treforys yn Abertawe, un i’r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd a’r pedwerydd yn cael ei gludo ar hofrennydd i Ysbyty Birmingham.

Digwyddiad tebyg

Mae’r digwyddiad yn dilyn un tebyg pum mlynedd yn ôl ger yr un safle, pan gafodd dyn 21 oed ei saethu’n farw wrth ymlacio mewn lleoliad diogel.

Clywodd cwest yn 2013 i farwolaeth Mike Maguire ei fod wedi cael ei saethu gan un fwled ar ôl i beiriant gael ei gyfeirio yn anghywir i mewn tuag at y tir.