Mae cyn athro mosg o Gaerdydd yn wynebu mynd i’r carchar ar ôl cael ei farnu’n euog o gyffwrdd pedair merch ifanc.

Roedd Mohammed Haji Saddique, 81, yn athro ym mosg Madina, Caerdydd, lle’r oedd ef yn cyffwrdd y plant wrth iddyn nhw ddarllen llyfr sanctaidd y Coran.

Gerbron Llys y Goron Caerdydd, plediodd yn ddieuog i 15 cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferched rhwng 1996 a 2006, a chafodd ei farnu’n euog o 14 trosedd rhyw yn erbyn plant.

Clywodd y Llys sut yr oedd Mohammed Haji Saddique hefyd yn drysorydd i’r mosg tan iddo gael ei ddinistrio gan dân yn 2006

Dywedodd yr erlynydd, Suzanne Thomas, mai trais oedd y norm yng ngwersi Mohammed Haji Saddique wrth gosbi plant.

Fydd yr achos yn cael ei ohirio ar gyfer dedfrydu ar Orffennaf 7.