Adam Price (Llun: Plaid Cymru)
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â dangos ffafriaeth gyllidol tuag at Ogledd Iwerddon os caiff dêl ei tharo â phlaid y DUP.

Gan ymuno â nifer o wleidyddion sydd eisoes wedi lleisio pryderon am y berthynas rhwng y ddwy blaid, mae’r Aelod Cynulliad, Adam Price, yn dweud y gall y sefyllfa arwain at “ledu’r bwlch” rhwng Cymru a gweddill cenhedloedd Prydain.

“Dywedir bod y DUP yn ceisio trafod buddsoddiad ychwanegol i Ogledd Iwerddon,” meddai Adam Price. “Byddai’n sarhad ar bobol Cymru a’r Alban pe na bai’n cael ei ymestyn i’r cenhedloedd hynny.

“Yr oedd Cymru eisoes yn derbyn llai o arian y pen o boblogaeth na’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac os bydd y Ceidwadwyr yn rhoi arian ychwanegol i Ogledd Iwerddon, yna lledu gwnaiff y bwlch hwnnw,” meddai wedyn.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn derbyn £1,500 yn llai o gyllid y pen bob blwyddyn na Gogledd Iwerddon ac os fyddai Cymru yn derbyn yr un lefel, byddai’n derbyn £4.6bn yn ychwanegol y flwyddyn.

Trafodaethau heddwch

Mae’r berthynas rhwng y Torïaid a’r DUP wedi codi pryderon ar draws y Deyrnas Unedig, yn bennaf yn Stormont lle mae nifer yn ofni gall dêl rhyngddyn nhw amharu ar drafodaethau heddwch.

Yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon, Peter Hain, mae’r Ceidwadwyr wedi “rhoi blaenoriaeth i’w plaid tros heddwch” ac yn annhebygol o fod yn “niwtral” bellach.