Carwyn Jones
Mae angen “ail adeiladu cyfansoddiadol” er mwyn ymdopi â heriau Brexit, meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mewn araith yng Nghaerdydd heddiw.

Wrth siarad yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, dywedodd fod potensial i ansefydlogi’r Deyrnas Unedig trwy adael yr Undeb Ewropeaidd, ond dywedodd fod gadael hefyd yn cynnig cyfle i “weddnewid” y berthynas rhwng gwledydd.

Cyflwynodd bapur yn awgrymu sefydlu ‘Confensiwn dros Ddyfodol y Deyrnas Unedig’ a ‘Chyngor Gweinidogion Prydeinig’ a fyddai’n ymdrin ag anghydfod ôl-Brexit.

“O’n safbwynt ni, mae tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn herio dyfodol y Deyrnas Unedig ei hun,” meddai Carwyn  Jones.

“Rydym o blaid yr undeb a datganoli, a chredwn ddylai fod pob opsiwn yn agored er mwyn cadw a magu undod y Deyrnas Unedig ac amddiffyn yr hyn sy’n gwneud pob cenedl yn unigryw.”