Maes tanio Castell Martin (Stephen Charles CCA 2.0)
Mae milwr gafodd ei anafu yn ystod “digwyddiad” yn ymwneud â thanc ar faes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sir Benfro, wedi marw.

“Â thristwch mawr gallaf gadarnhau fod milwr o’r Gatrawd Tanc Frenhinol wedi marw o ganlyniad i anafiadau derbyniodd yn ystod digwyddiad ar feysydd Castell Martin,” meddai’r Gweinidog Amddiffyn, Tobias Ellwood.

Cafodd tri milwr arall eu hanafu prynhawn ddydd Mercher mewn ardal sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion y Corfflu Arfog Brenhinol.

Gwnaeth Heddlu Dyfed Powys gael ei galw i’r safle am 3.30yh y ddoe ac mae swyddogion yn ymchwilio mewn i’r hyn y digwyddodd.

Agorodd y maes tanio yn 1938 ac mae’r safle yn ymestyn am dros 5,900 acer ar hyd arfordir Sir Benfro.