Bydd ‘gwyl’ yn cael ei chynnal ym Machynlleth ddiwedd y mis er mwyn trafod sut i ddenu mwy o ddysgwyr a mewnfudwyr i ddigwyddiadau cymunedol Cymraeg.

Cymdeithas yr Iaith sy’n trefnu’r ‘Ysgol Undydd Dathlu Cymunedau’, a’r nod ydi casglu syniadau ynglyn â sut i ddenu pobol i ddysgu’r iaith ac ysgogi diddordeb yn y Gymraeg.

Y bwriad yn y pen draw ydi creu pecyn gwybodaeth y medr cymunedau ledled Cymru ei fabwysiadu.

Ymysg y siaradwyr yn y diwgdyddiad yn Senedd-dy Owain Glyn Dwr ar Fehefin 30, y mae Marc Jones o Ganolfan Saith Seren, Wrecsam; y cerddor a’r archeolegydd, Rhys Mwyn; a Helen Prosser o Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Denu dysgwyr

“Nod y diwrnod yw gofyn, sut gallwn gynnal digwyddiadau Cymraeg a gweithgareddau Cymraeg a gwneud hynny mewn ffordd sydd yn cynnwys a thynnu fewn dysgwyr,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, wrth golwg360.

“Targed [y diwrnod] ydi pobol sydd yn trefnu gweithgareddau – arweinwyr o wahanol gymunedau. Ond wrth gwrs mae’n agored i bawb ac rydan ni’n disgwyl gweld rhywfaint o ddysgwyr yna hefyd.”