Mae gyrwyr mewn maes parcio yng Nghaernarfon yn cael eu rhybuddio i symud cyn 6 o’r gloch heno – neu fe fydd eu cerbydau’n cael eu hystyried yn “risg diogelwch” ac yn cael eu symud oddi yno gan y gwasanaethau brys.

Ddoe, fe osodwyd llythyr dwyieithog dan weipars ceir sy’n parcio yn unig faes parcio am ddim y dre’, yn dweud bod angen gwagio’r safle ger swyddfa’r Docfeistr cyn 6yh ddydd Iau, Mehefin 15, er mwyn paratoi ar gyfer digwyddiadau Diwrnod Lluoedd Arfog ar Fehefin 17 ac 18.

“Noder os gwelwch yn dda,” meddai’r nodyn gan Gyngor Gwynedd, “y bydd y maes parcio yma ar gau o 18:00 dydd Iau… tan fore Llun y 19 o Fehefin ar gyfer gweithgareddau i ymwneud â Diwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru…

“Gofynnwn yn garedig i chi beidio â pharcio eich cerbyd yn y gofod yma ar ôl yr amser yma, Os bydd eich cerbyd yn cael ei adael yn y gofod yma… bydd fwy na thebyg yn cael ei ystyried fel risg diogelwch a gellir cael ei symud gan y Gwasanaethau Brys.”

Mae trigolion Stryd yr Eglwys gerllaw wedi cael yr un rhybudd gan yr awdurdod lleol.